Llais Carrog a Llidiart y Parc – The Voice of Carrog and Llidiart y Parc
Welcome to -

(English) Help at hand for mortgage repayments No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Celebrating Age Festival No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn ymweld â’r Sioe No comments yet

Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Ddinbych yn Sioe Dinbych a Fflint eleni ar ddydd Iau, Awst 20.
Bydd Dechrau’n Deg, Twf, Menter Iaith, Tegan, Canolfan Margaret Morris a Chymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant yn yr un babell.
Fe fydd yna weithgareddau crefftau i blant drwy gydol y dydd yn cynnwys paentio crysau t, gwneud cibabs ffrwythau, stori a chanu a boliau bach.  Mae croeso i deuluoedd ymweld â’r babell.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01824 708220 ac e-bost ggd@sirddinbych.gov.uk.

Arddangos polo dŵr No comments yet

Cymerodd dros 60 o nofwyr rhwng 8 a 16 oed o Sir Ddinbych, Conwy a Wrecsam, ran yn  Arddangosfa Polo Dŵr Gogledd Cymru a gynhaliwyd ym Mhwll Nofio Llandudno’n ddiweddar.
Fe roddodd tîm o chwaraewyr o’r ‘Manchester Aquatic Centre’ arddangosiad, i ddangos i chwaraewyr polo dŵr brwd y dyfodol o Ogledd Cymru sut mae gwneud.
Yna fe roddodd y sgwad o Fanceinion a’u hyfforddwyr sesiwn gynhwysfawr o hyfforddiant yn seiliedig ar sgiliau.
Meddai swyddog datblygu nofio Sir Ddinbych ac un o drefnwyr y digwyddiad, Lucy Jones, “Roedd yn ddiwrnod mor bleserus nes bod pawb yn gobeithio y daw hwn yn ddigwyddiad blynyddol.”
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r sesiynau polo dŵr gysylltu â Lucy ar lucy.elizabeth.jones@sirddinbych.gov.uk neu 01824 712714.  Mae sesiynau ar gael ar gyfer rhai 8 – 11 oed, 12 – 16 oed a 17 oed a throsodd.

Hwyl i’r teulu gyfan yng nghefn gwlad Sir Ddinbych No comments yet

Mae gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu cyfan wedi eu trefnu yn Sir Ddinbych dros yr wythnosau i ddod.

Hwyl yn y Goedwig – dydd Llun, Awst 10- 1.30pm-3.30pm
Mwynhewch weithgareddau crefft y goedwig gyda Thîm Addysg y Goedwig ym Mharc Gwledig Loggerheads.  5 oed +
(Fe ailadroddir y digwyddiad hwn dydd Llun, Awst 17 a dydd Llun Awst 24- yr un amser a’r un lleoliad).

Anhrefn Cefn Gwlad – dydd Mawrth, Awst 11 – 1pm-4pm
Gweithgaredd crefftau galw i mewn i’r teulu i gyd.  Cyfarfod yn yr Ardd De, Parc Gwledig Loggerheads.
(Fe ailadroddir y digwyddiad hwn ar ddydd Iau, Awst 13, dydd Mercher, Awst 19 a dydd Mercher, Awst 26 – yr un amser a’r un lleoliad).

Ffrwydrad Folcanig – dydd Mawrth, Awst 18 – 1.30pm-3.30pm
Cewch fod yn athrylith o ddaearegwr.  Cyfarfod ym maes parcio Canolfan Hamdden Corwen.  Ar gyfer oedrannau 8+

Rhostir Hudol – dydd Mawrth, Awst 25 – 11am-3pm
Diwrnod o weithgareddau a sgyrsiau am ein rhostir hudol yn cynnwys taith dywys ym Mryniau Clwyd sydd wedi eu gwisgo â phiws.  Cyfarfod ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Ffrwydrad Folcanig – dydd Iau, Awst 27 – 1.30pm-3.30pm
Cewch fod yn athrylith o ddaearegwr.  Cyfarfod ym Mhwll Brickfields, Y Rhyl.  Ar gyfer oedrannau 8+

I fwcio lle ar unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, ffoniwch 01352 810614.

Trefnwyd y digwyddiadau hyn gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ac fe’u hariannwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

(English) Get out and about in Denbighshire’s countryside No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Bike seized after illegal off-road exploits No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Green light for development plan consultation No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Excavation works in search of history on the Clwydian Range No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Showcasing councils’ services at county show No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

Top of page / Subscribe to new Entries (RSS)