Rhifyn 5 No comments yet
Croeso i’r rhifyn swmpus hwn o’r Bont. Diolch i bawb a gyfrannodd erthyglau, sylwadau a llythyrau.
Hefyd, croeso mawr yn ôl i’r golofn ‘Bwtsias a Berfâu’ - un o’r goreuon!
Darllenwch ymlaen a chael cip ar yr ochr orau o fywyd pentrefol. Er gwaetha’r grŵp bach o unigolion cyfeiliornus sy’n dal i darfu ar gwsg y gymuned, rhai enghreifftiau bach o fandaliaeth a rhwystredigaethau cyffredinol bywyd bob-dydd, rydym yn ffodus o fyw mewn lle mor hyfryd, y mae ein hymwelwyr niferus yn genfigennus ohono. Os oes gennych bum munud sbâr efallai yr hoffech nodi eich meddyliau a’u rhannu gyda’r gweddill ohonom trwy’r Bont.
YSGOL CARROG
Fe wnaeth y plant i gyd gymeryd rhan yn y cyngerdd
diwedd y tymor pan aethant a’r gynulleidfa rownd y byd
mewn can a barddoniaeth. Cyflwynodd Athro David
Jones, cadeirydd y llywodraethwyr eiriaduron i ddysgyblion
blwyddyn 6 sef Elisha Nash, Lowri Jones Williams
ac Alix Hooson. Rhoddodd y tri, lun wedi ei fframio
o holl ddysgyblion ac athrawon yr ysgol. Fe drefnwyd
disco ganddynt yn y Neuadd i blant yr ysgol.Yn ystod
tymor yr Haf aeth y plant i Eisteddfod Llangollen i Ddiwrnod
y Plant ac ar wibdaith i Parc Camelot lle cafwyd
llawer o hwyl.
DIFROD TROSEDDOL
Yn anffodus mae’r Eglwys a Neuadd y Pentref ill dau
wedi cael eu difrodi yn ystod yr wythnosau diweddar. Yn
yr Eglwys, cafodd diffoddydd tân ei ddwyn o’r tu mewn
a’i arllwys yn y cyntedd. Y gost o’i ailosod oedd £120;
o’r braidd y gall Eglwys Carrog fforddio swm o’r fath.
Fel cyd-ddigwyddiad, dyma’n union faint a godwyd ar
y Daith Gerdded Helfa Drysor. Ymddangosodd crafiad
ym mhaent newydd y ddau ddrws yn Neuadd y Pentref,
a hefyd ar yr Hysbysfwrdd, ac yn ddiweddar, cafodd un
o’r peipiau glaw ei thorri. Os byddwch yn dyst i unrhyw
ddigwyddiad o’r fath, cofiwch y gallwch eu hysbysu heb
ddatgelu pwy ydych chi, ar rif ffôn Crimestoppers: 0800
555 111 neu trwy lenwi’r ffurflen arlein ar <http://www.
crimestoppers-uk.org/>
GWEFAN
Cofiwch ein gwefan, www.carrogybont.co.uk. Bydd y rhai
ohonoch sydd wedi dilyn y wefan hon yn gwybod y mae’r
wefan yn cael ei diweddaru’n rheolaidd, gyda gwybodaeth
a dderbynnir o’r pentref ei hun a’r tu allan. Efallai y bydd
yr wybodaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Ddinbych,
sy’n rhestru’r holl wybodaeth berthnasol y mae swyddfa’r
wasg yn ei ryddhau. Yn ystod adeg y gwyliau, rhestrir yr
holl weithgareddau, o Bicnics Tedi Bêrs i Sioeau Awyr.
Ewch i gael cip!
Yn aml mae oedi rhwng y pryd y mae’r fersiwn Saesneg
a’r fersiwn Cymraeg yn ymddangos ar ein gwefan.
Mae oherwydd bod yr wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn
Saesneg yn gyntaf, gyda’r cyfieithiad Cymraeg yn dilyn
hyd at 24 awr yn ddiweddarach. Mae’r golygyddion yn
ychwanegu’r Gymraeg mor gyflym ag y mae amser yn
caniatáu; ymddiheurwn os mae hyn yn cymryd mwy o
amser nag sy’n ddelfrydol weithiau.
Gallwch roi sylwadau ar unrhyw erthygl sy’n ymddangos
ar y wefan, un union fel y fersiynau papur.
CYSTADLAETHAU CYMUNEDOL SIR DDINBYCH
Cafodd y teitl o Neuadd Bentref/Canolfan Gymunedol
y Flwyddyn Sir Ddinbych 2009 ei ddyfarnu i Ganolfan
Llandrillo ynghyd â gwobr o £100.00. Yn gydradd
ail gyda gwobr o £75.00 yr un roedd Neuadd Carrog a
Chanolfan Cae Cymro, Clawddnewydd. Yn drydydd
roedd Theatr Twm o’r Nant, Dinbych, a fydd yn derbyn
gwobr o £50.00. Noddwyd y Gystadleuaeth hon gan Ffynhonnell
y Degwm Sir Ddinbych.
Mae manylion Menter Wirfoddol Ieuenctid y Flwyddyn
2009 a Stad Henoed y Flwyddyn i’w gweld ar ein gwefan.
GWOBR CYSYLLTIADAU CYMUNEDOL BT
Gwnaeth Neuadd y pentref, Carrog, gais llwyddiannus i
Gynllun Gwobrau Cysylltiadau Cymunedol BT; bydd yn
derbyn gliniadur a blwyddyn am ddim o gysylltiad band
eang diwifr yn ystod mis Medi.
Mae BT yn rhedeg y cynllun i roi cyfle i fudiadau cymunedol
ac elusennol i gael mynediad i’r byd arlein
ar gyfer marchnata, recriwtio, codi arian, cyfathrebu a
rhwydweithio. Roeddwn o blith miloedd a ymgeisiodd yn
y cynllun gwobrau ledled y Deyrnas Unedig a Gogledd
Iwerddon, a gwnaethon ni argraff ar y beirniaid ynglŷn â
sut y byddai mynediad i’r rhyngrwyd yn lles i’r gymuned
leol.
Dywedodd Beth Courtier, Rheolwr y Rhaglen Buddsoddi
Cymunedol: “Mae’n cynllun gwobrau hwn yn golygu i
filoedd o gymunedau allu manteisio o’r buddion niferus
ac amrywiol sydd gan y rhyngrwyd i’w cynnig. Trwy
ddarparu’r gwobrau hyn i ddatblygu’r gallu, mae BT yn
hybu cynaladwyedd ac yn galluogi grwpiau i symud ymlaen
a thyfu.
CARCHARDY
Rydym yn drist o adrodd bod safle’r Carchardy ynghanol y
pentref erbyn hyn wedi’i lefelu, ac mae olion olaf y waliau
hynafol ar lannau’r afon Dyfrdwy wedi diflannu o dan
haenen o rwbel.
Cafodd Carchardy Owain Glyndŵr, wrth ben Teras
Glyndŵr, sylw haneswyr am ganrifoedd, ac yn ôl ym 1906
dechreuodd y Parch. Rees Jones, Carrog ymgyrch cenedlaethol
i ddiogelu’r adeilad. Can mlynedd wedi hynny, does
dim ar ôl uwchlaw’r tir rŵan o’r hen adeilad, a gafodd ei
restru gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1908 fel
lle o ddiddordeb hanesyddol sylweddol.
Does neb yn gwybod beth fydd dyfodol y safle, gan ar
hyn o bryd nid oes cynlluniau wedi’u cyflwyno i’r cyngor
sir. Chafodd ddim cynlluniau eu cyflwyno, chwaith, cyn
clirio’r safle.
Rhoddodd Fiona Gale, Archeolegydd y Sir, yr ateb canlynol
i’r Carchardy a Charrog Anweledig:
“Hyd y gwn i, nid oes unrhyw olion o’r adeilad sy’n gysylltiedig
â Glyndŵr ar y safle hwn ers peth amser. Rwy’n
ymwybodol o’r safle ac o’r ymchwil helaeth gan Ian Lebbon.
Bydd sylfeini’r adeilad o dan y tir, ond efallai na fydd
fyth yn bosibl cysylltu’r adeilad heb amheuaeth ag Owain
Glyndŵr.
Ynglŷn â mater arall, bydd safle Mwnt Owain Glyndŵr
yn cael arian sylweddol cyn bo hir o Lywodraeth Cynulliad
Cymru i’w atgyweirio. Mae Cadw yn dechrau cynllunio
rhaglen at y diben hwn. Cafodd yr ariannu hwn ei
gyhoeddi’r llynedd. Rwy’n meddwl bod cyndynrwydd i
annog ymwelwyr i’r safle cyn i rywfaint o waith atgyweirio
gael ei wneud.
Wedi’i ethol fel aelod dros Ward Gymunedol Corwen, galwodd
y Cynghorwr Hugh Jones gyfarfod gyda haneswyr
lleol, aelodau Cadw, ac Archeolegydd y Sir yng Nghapel
Rhug yn yr haf 2008, gyda’r bwriad o sefydlu ‘Llwybr
Owain Glyndŵr’ o Gorwen, Mynydd-y-Gaer, Carchardy,
Mwnt Owain Glyndŵ, dros y Berwyn i Ben y Pigyn ac
i lawr i Eglwys Corwen. Comisiynwyd adroddiad, a’
cyflwynwyd i Glerc y Cyngor Cymuned. Mae nawr wedi
dweud ei fod yn synnu ac yn drist nad ydynt wedi cymryd
sylw o hyn’a bydd yn ceisio ar ô egwyl yr haf i drefnu
cyfarfod gyda Fiona Gale, Archeolegydd y Sir, i drafod
dyfodol y safle.
O ystyried hyn, mae cryn dipyn o eironi yn y canlynol:
Cyfnod newydd yn hanes bwthyn y bugail
Mae angen gwirfoddolwyr i helpu gyda phrosiect cadwraeth
sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Nghoedwig
Nercwys ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir Fflint.
Mae partneriaeth y Comisiwn Coedwigaeth a’r Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cydweithio i ddod â
bywyd newydd i’r ardal ac mae gwaith wedi cychwyn ar
y clostir o flaen hen fwthyn y bugail.
Mae’r hen foncyffion a oedd ar ôl yn y clostir ers clirio’r
coed bum mlynedd yn ôl, yn awr wedi eu symud ac mae
crefftwyr lleol wedi dechrau ailadeiladu’r wal gerrig sychion
a oedd yn ei amgylchynu.
Y syniad yw troi’r clostir yn weirglodd a fydd yn gyfoethog
o flodau – cynefin pwysig i lawer o rywogaethau
o blanhigion a phryfed. Unwaith y bydd y wal gerrig
sychion wedi ei hail-godi bydd y gwaith yn cychwyn i
baratoi’r tir ar gyfer hau cymysgedd o hadau blodau gwyllt
yn y gwanwyn.
Fe ddymchwelwyd yr hen fwthyn ym mhen uchaf y
clostir yn gynnar yn y 1960au pan blannwyd y goedwig a
barnwyd ei fod yn anniogel. Ers hynny mae wedi aros yn
bentwr o rwbel ond y gobaith yn awr yw ail-greu cynllun
llawr gwreiddiol yr adeilad.
Dan oruchwyliaeth Fiona Gale, Archeolegydd Cyngor Sir
Ddinbych, fe wahoddir gwirfoddolwyr i helpu i glirio peth
o’r rwbel. Fe’i diogelir rhag unrhyw ddinistr pellach ac fe
wneir arolwg archeolegol.
DARPARIAETH CLWB IEUENCTID YNG NGHARROG
Ar ôl inni ofyn am y diweddaraf ar ddyfodol y ddarpariaeth
ar gyfer pobl ifainc yn y pentref, rydym wedi derbyn y datganiad
canlynol gan y Cynghorwr Hugh H Evans, Arweinydd
Cyngor Sir Ddinbych:
“Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ail-drefnu
ei adnoddau fel rhan o’i Strategaeth Cyflawni’r Addewid.
Mae’r broses hon yn cynnwys nifer o nodweddion allweddol:
Mae’r rhain yn cynnwys:
·Adolygiad annibynnol cyn gwneud argymelliadau ar gyfer
datblygu a darparu yn y dyfodol
·Rhoi ar waith cynllun gweithredu i ymateb i anlyniadau’r
broses adolygu
·Cynnwys yn y rhaglen yr Uned Symudol Ieuenctid, sy’n
darparu gwaith ieuenctid mewn cymunedau gweledig a chymunedau
llai
·Hyfforddi gwirfoddolwyr yn y gymuned i redeg gweithgareddau
cefnogi ieuenctid mewn cymunedau gweledig a
chymunedau llai
·Y gwasanaethau Ieuenctid a Hamdden i fod i gydweithio i
wella’r rhwydwaith cefnogaeth a gweithgareddau ieuenctid
Ar hyn o bryd mae Carrog yn un o’r cymunedau a fydd yn
elwa o’r ddarpariaeth symudol newydd. Mae’r gwasanaeth
yn cynllunio cwrs hyfforddi i wirfoddolwyr i’r gynnal ym
Mis Ionawr 2010; bydd yn recriwtio ar gyfer y cwrs hwn o
Fis Medi 2009 ymlaen.
Mae Uwch Arweinydd Tîm y Gwasanaeth Ieuenctid a’r
Cynghorwr Huw Jones wedi cwrdd â Phwyllgor Neuadd y
Pentref, Carrog i roi gwybod iddynt i’r hyfforddiant newydd
ar gyfer gwirfoddolwyr a’r uned symudol. Mae pobl ifanc
yn edrych ymlaen gyda chyffro ar yr uned symudol ac mae’r
pwyllgor wedi cytuno i hepgor y ffî hurio er mwyn i’r gwasanaeth
a DVSC allu hyfforddi gwirfoddolwyr o’r gymuned.
Rhagwelir y bydd gwirfoddolwyr o gymuned Carrog yn gallu
gweithio gyda’r Gwasanaeth ieuenctid a DVSC i ddarparu
ystod eang o gefnogaeth i waith ieuenctid.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â’r
datblygiadau yng Ngharrog, cysylltwch â’r Prif Swyddog
Ieuenctid, Roger Ellerton, ar 01745 345234.”
CARROG ANWELEDIG?
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych lyfryn o’r
enw “Darlun o Sir Ddinbych” gyda’r bwriad o groesawu
ymwelwyr i’r amrywiaeth o lefydd diddorol a phethau i’w
gwneud yn y sir. Yn anffodus mae’n ymddangos nad ydi Carrog
na Llidiart y Parc (na Glyndyfrdwy!) yn haeddu cael eu
cynnwys yn y rhestr o bentrefi a ddisgrifir. Mae hyn er gwaethaf
ein pont a’n heglwys hanesyddol a’n lleoliad ynghanol
tiroedd Glyndŵr – mae’r Mwnt a safle’r Carchardy o fewn
terfynau’n pentref. Mae’r unig gyfeiriad at y Mwnt o dan y
disgrifiad o Gorwen, sy’n lleoli’r safle pwysig hwn saith milltir
i’r dwyrain, rhywle yn ardal y Berwyn!
Mae twristiaeth yn rhan bwysig o’r economi lleol – os ydym
i elwa ohoni, dylem o leiaf fod yn weladwy mewn arweinlyfr
swyddogol a gyhoeddir gydag arian cyhoeddus. Rhai blynyddoedd
yn ôl, rhedodd Cyngor Dosbarth Glyndŵr ymgyrch
llwyddiannus iawn ar sail “Gwlad Glyndŵr” – mae’ ymddangos
nad ydi’ cyngor presennol wedi dysgu dim o’
ymgyrch hwnnw.
Fodd bynnag, mae twristiaid yn dod o hyd inni, nifer ohonynt
ar y trê, ond er bod gorsaf derfynol orllewinol Rheilffordd
Llangollen yma, nid ydym yn haeddu sylw!
Efallai y dylai awduron yr arweinlyfr hwn fod wedi cysylltu
ag aelodau’ gymuned ynglŷ â’ cynnwys. O leiaf y byddwn
wedi cael ein gwaredu rhag y “hwedl”y “orrwyd pen
Robert Hutton oddi ar ei ysgwyddau gan goeden yn disgyn
wrth iddo farchogaeth heibio Plas Rhaggatt, ger Corwen
yn y 1850au.”Mae adroddiadau’ wasg yn datgan yn glir y
bu farw ym mis Ionawr 1910, yn fwyaf tebyg o ganlyniad
trawiad ar y galon; cafodd ei gladdu yng Ngharrog.
Fel ateb i’ gofynion am sylwadau, fe dderbyniwyd yr
ymateb canlynol gan Peter McDermott, Swyddog Prosiect
CANTATA2, Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae’n anodd iawn cynnwys popeth mewn arweinlyfr cyffredinol.
Rydym yn trafod ailargraffiad o’r arweinlyfr ar hyn
o bryd, ac er nad ydym mewn sefyllfa i wneud newidiadau ar
raddfa eang, efallai y gallwn gynnwys paragraff byr am Garrog
yn yr adran Pentrefi. Diolch hefyd ichi am dynnu ein sylw
at y camgymeriad ynglŷn â Robert Hutton. Os byddwn yn ei
ailargraffu byddaf yn sicrhau y caiff hwn ei dynnu.”
Hefyd, nododd Fiona Dolben o’r Uned Twristiaeth:
“bod y llyfrynnau ‘Crwydro Corwen’ a ‘Gwlad Owain
Glyndŵr a Llwybrau Coedwig Pen y Pigyn’ yn crybwyll Carrog
a Llidiart y Parc.”
GEFEILLIO
Dylai ymweliad gefeillio i’n ffrindiau yn Plouyé, Llydaw,
wedi digwydd ym mis Awst 2009, ond i resymau gwahanol
nid oedd yn bosibl. Mae ein gwesteiwyr yn naturiol yn siomedig
ac maent yn gobeithio y bydd grŵp o’r pentref yn gallu
ymweld â nhw’r flwyddyn nesaf. Cynhelir cyfarfod i drafod
gefeillio yn hwyr ym mis Medi – croeso cynnes i bawb, dyddiad
i’w gadarnhau.
GWASANAETHAU BRYS YN ATEB GALW YNG NGHARROG
Ar 26 Gorffennaf, yn dilyn hysbysiad o rywun yn galw am
gymorth yn y caeau y tu ôl i Faes y Llan, atebodd yr heddlu,
y tîm achub ar fynydd a dau hofrennydd y galw. Fe chwiliwyd
am nifer o oriau, ond rhoddwyd y gorau iddo pan na
ddaethpwyd o hyd i unrhyw un mewn trafferth. Amcangyfrifir
y bydd y gweithrediad yn costio tua £20,000.
Gofynnodd Y Bont i’r heddlu am unrhyw sylwadau, ond
gwrthododd am eu bod ynghanol gwneud ymholiadau, mae’n
debyg.
Er Cof
Mr. Idwal Pritchard
Trist iawn oedd clywed y newyddion am farwolaeth
Mr Pritchard, cyn brifathro Ysgol Carrog. Roedd wedi
symud o Maes y Llan gyda ei wraig i gartref Abbey
Dingle Llangollen.
Bu yn brifathro yng Ngharrog am 1966 tan ei ymddeoliad
yn 1982 ac yn ystod y cyfnod yma gwelodd llawer o
newidiadau mewn addysg a rhifau y plant yn yr ysgol.
Mae llawer o drigolion yng Ngharrog heddiw yn ei
gofio fel athro dosbarth.
Roedd yn aelod ffyddlon o bwyllgor y Neuadd a bu yn
drysorydd ac ysgrifennydd. Roedd yn mwynhau gem o
snwcer ac yn aelod yng nghapel Seion Carrog.
Estynwn ein cydymdeimlad i’w weddw, ei fab,ei ferch
yng nghyfraith a’i wyresau.