Llais Carrog a Llidiart y Parc – The Voice of Carrog and Llidiart y Parc
Carrog Y Bont » Archive of 'Jul, 2009'

Digwyddiadau’r Haf yng Ngharchar Rhuthun No comments yet

Mae gan Garchar Rhuthun lu o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu wedi eu trefnu  yn ystod mis Awst.
Mae crefftau, celf, sesiynau addysgol a gemau wedi eu trefnu ar brynhawniau Mercher rhwng 2 a 4pm.

  • Awst 5 – Dihangfa’r Tedi Bêrs!  Dewch â’ch tedi draw i fwynhau’r gemau a’r posau sydd ar gael.
  • Awst 12 – Cynffonau’r Carchar – sesiynau ysgrifennu ac adrodd stori am rai o greaduriaid cynffon hir y gallech ddod o hyd iddyn nhw yn y carchar.
  • Awst 19 – Jack, Cath y Stesion – bydd Alan Cliff, awdur cyfres ‘Jack the Station Cat’ yn dweud hanesion am ei gath enwog.
  • Awst 26 – Dwi’n Eich Arestio Chi!  Cyfle i gymryd rhan mewn gemau a sesiynau addysgol – yn cynnwys cymryd ôl eich bys.

Dim angen bwcio ac mae’r digwyddiadau am ddim ar ôl talu’r pris mynediad arferol i’r Carchar – £3.50 i oedolion, £2.50 am gonsesiynau a £10.00 am docyn i’r teulu.
Am wybodaeth bellach ffoniwch 01824 708281 neu e-bostiwch curatorialmanager@sirddinbych.gov.uk.

Mynnwch arweinlyfr Drysau Agored Sir Ddinbych am ddim! No comments yet

Mae’r arweinlyfrau ar gyfer digwyddiad treftadaeth eleni – Drysau Agored Sir Ddinbych – yn barod yn awr.  

Gallwch archebu eich copi am ddim a gweld beth sydd gan Ddinbych, Llangollen a Rhuthun i’w gynnig pan fyddant yn agor eu drysau’r mis Medi hwn – Dinbych ar Fedi 13 a 14, Llangollen ar 19 a 20, a Rhuthun ar 26 a 27.

Mae yna ystod eang o deithiau cerdded a theithiau tywys, ac mae angen bwcio rhai ohonyn nhw ymlaen llaw, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn bwcio’n gynnar i osgoi siomedigaeth.  
I ddarganfod mwy am yr hyn sydd ar gael, ewch i’r wefan ar www.opendoorsdenbighshire.org.uk <http://www.opendoorsdenbighshire.org.uk>.  Caiff y wefan ei diweddaru’n rheolaidd gyda’r newyddion diweddaraf am y digwyddiad.

Mae’r ychwanegiadau diweddaraf i’r wefan yn cynnwys manylion llawn ar yr arddangosiadau o sgiliau adeiladu traddodiadol sy’n digwydd yng Ngardd Goffa’r Dr Evan Pierce, Dinbych a Nantclwyd Y Dre, Rhuthun.  

Mae pob Cyngor Tref wedi cytuno’n garedig i ddefnyddio rhai o’u dyddiau parcio am ddim i ganiatáu i ymwelwyr barcio am ddim – sy’n gwneud Drysau Agored Sir Ddinbych yn ddigwyddiad sy’n wirioneddol am ddim.

I fwcio un o’r teithiau ac/neu i archebu eich arweinlyfr am ddim, ffoniwch 01824 705274 / 01745 816313 / 01978 860828
neu e-bostiwch cynlluntreftadaeth@sirddinbych.gov.uk.

Mae’r Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd yn fenter Cyngor Ewrop.  Fe’i lansiwyd yn 1991, a’r llynedd fe ymwelodd dros 20 miliwn o bobl â’r holl safleoedd cyfranogol dros Ewrop.  Yng Nghymru, fe gydlynir Dyddiau Agored Treftadaeth ar ran Cadw – adran amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru – gan Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru.
Mae’r penwythnosau hyn yn bosib oherwydd ymdrechion cyfunol Cymdeithas Ddinesig Dinbych, Cymdeithas Ddinesig Llangollen, Cymdeithasau Dinesig Rhuthun a’r Cylch, Cyngor Tref Dinbych, Cyngor Tref Llangollen, Cyngor Tref Rhuthun a Chyngor Sir Ddinbych yn ogystal â chyfraniad y perchnogion a’r gwirfoddolwyr.

Amlygu mentrau trosedd y Sir ar wefan y BBC No comments yet

Mae prosiect sydd wedi ei hanelu at daclo difrod troseddol yn Sir Ddinbych i’w nodweddu fel enghraifft o ymarfer gorau ar wefan sy’n cael ei lansio i gyd-ddigwydd â chyfres deledu’r BBC ar drosedd.

Bydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych yn cael sylw ar wefan y BBC ‘Truth About Crime’ ac mae’n un o 26 o gynlluniau ar draws y DU a ddangosir yn dilyn proses ddethol drwyadl.

Fe’i dewiswyd oherwydd ei hymdrechion i leihau trosedd.  Yn ystod y cyfnod o Ebrill 2007 i Fawrth 2008, fe osododd y Bartneriaeth darged iddi ei hun i leihau difrod troseddol o 20% – roedd y gostyngiad gwirioneddol yn 42%.

Mae’r mentrau a ddefnyddir i leihau trosedd yn y sir ac sy’n cael eu hamlygu ar y wefan yn cynnwys:

•Gosod giatiau mewn ardaloedd poeth
•Ymweliadau aml-asiantaeth ag adeiladau trwyddedig
•Profion prynu – gwrthod cyrchiad i alcohol i bobl ifanc
•Parthau rheoli alcohol yn Y Rhyl, Prestatyn a Llangollen
•Glanhau amgylcheddol a recordio graffiti
•Cyflwyno byrddau graffiti a pheth cefnogaeth artistig, i roi cyfle i bobl ifanc gael eu mynegi eu hunain yn artistig heb achosi difrod
•Gweithredu GROG (Get rid of graffiti), menter sy’n seiliedig ar Crimestoppers
•Fe nodwyd ardaloedd poeth o ran graffiti ac fe’u paentiwyd gyda murlun gan ddefnyddio artist lleol ac ‘artistiaid graffiti lleol’

Meddai’r panel a ddewisodd fenter Sir Ddinbych i’w nodweddu ar y wefan: “Enghraifft dda o brosiect sy’n cyfuno cymysgedd o blismona mannau poeth, dyluniad amgylcheddol a mesurau diogelwch eraill.  Er yn gonfensiynol yn hytrach nag yn arloesol, mae canlyniadau’r lleihad mewn trosedd a adroddir yn drawiadol”.

Meddai Stephen Hughes o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych: “Er mai pethau lefel isel yn aml ydi’r rhain fel ffenestri wedi eu malurio, tipio anghyfreithlon neu graffiti, mae difrod troseddol yn cael effaith anghymesur ar ofn trosedd sydd gan bobl.

“Rydym wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyflawni a churo’r targed o leihau difrod troseddol yn y sir.  Ond, ni fyddwn yn hunanfodlon ac mae’r frwydr yn erbyn trosedd yn Sir Ddinbych yn parhau.

“Mae cael ein cydnabod fel esiampl o ymarfer gorau ar draws y DU yn gyflawniad aruthrol, rhywbeth y mae’r holl bartneriaid sydd ynghlwm â’r Bartneriaeth yn falch iawn ohono ac fe fyddwn yn annog pobl i gymryd golwg ar y wefan am wybodaeth bellach, yn ogystal â chyrchu ystod eang o wybodaeth a chyngor ar atal trosedd.”

I ymweld â’r safle, cliciwch ar <www.bbc.co.uk/truthaboutcrime>, yna cliciwch ar yr adran ‘Take Action’.  Gallwch gyrchu’r wybodaeth am fenter Sir Ddinbych drwy deipio cod post yn Sir Ddinbych.

CYSTADLAETHAU CYMUNEDOL SIR DDINBYCH 2009 No comments yet

Mae beirniadu ymhob categori o’r Cystadlaethau Cymunedol, sydd yn cael eu trefnu gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych [CGGSDd] wedi ei gwblhau.  Trefnir cystadlaethau i ‘Fenter Wirfoddol Ieuenctid y Flwyddyn Sir Ddinbych’; Stad Henoed y Flwyddyn Sir Ddinbych’ a ‘Neuadd Bentref/Canolfan Gymunedol y Flwyddyn Sir Ddinbych’.

 

Cafodd y Gystadleuaeth i Fenter Wirfoddol Ieuenctid y Flwyddyn Sir Ddinbych 2009 ei noddi gan Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych.  Dyfarnwyd y wobr gyntaf i ‘Kids Fun Club’, Y Rhyl.  Fe fyddant yn derbyn gwobr o £150.00.  Yn ail ac yn derbyn gwobr o £75.00 roedd Prosiect Ieuenctid Dinbych ac yn drydydd gyda gwobr o £50.00 roedd Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun.  Fe fydd Ysgol Uwchradd Prestatyn a ‘Vale of Clwyd Young Life’ yn derbyn tystysgrifau teilyngdod.

 

Cafodd y teitl o Stad Henoed y Flwyddyn Sir Ddinbych 2009 ei ddyfarnu i Llygadog, Corwen.  Fe fyddant yn derbyn siec am £150.00.  Mae’r ail wobr wedi ei rannu rhwng Plas Gorffwysfa, Prestatyn a Weston Court, Y Rhyl.  Fe fyddant yn derbyn siec am £100.00 yr un.  Yn gydradd drydydd gyda gwobr o £50.00 yr un roedd Trem y Castell, Llangollen a Bro Dinam, Llandrillo.  Noddwyd y gystadleuaeth hon gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn.

 

Cafodd y teitl o Neuadd Bentref/Canolfan Gymunedol y Flwyddyn Sir Ddinbych 2009 ei ddyfarnu i Ganolfan Llandrillo ynghyd â gwobr o £100.00.  Yn gydradd ail gyda gwobr o £75.00 yr un roedd Neuadd Carrog a Canolfan Cae Cymro, Clawddnewydd.  Yn drydydd roedd Theatr Twm o’r Nant, Dinbych.  Fe fyddant yn derbyn gwobr o £50.00.  Noddwyd y Gystadleuaeth hon gan Ffynhonnell y Degwm Sir Ddinbych.

 

Llongyfarchiadau i’r enillwyr i gyd a diolch i bawb am ymgeisio!  Fe fydd Seremoni Wobrwyo yn cael ei gynnal ym mis Medi ac mae mwy o fanylion ar gael gan

Emyr B Williams                                                                        Canolfan Naylor Leyland

Uwch Swyddog Datblygu                                       Stryd y Ffynnon, Rhuthun LL15 1AF

Rhif ffôn 01824 702441                                       Dydd Gwener, Gorffennaf 17eg, 2009

 

Digwyddiadau Arbennig yr Haf yn Y Rhyl No comments yet

Mae Wythnos Y Rhyl yn cyflwyno cyfres o Ddigwyddiadau Glan Môr Arbennig yn y Theatr Awyr Agored yn y Parc Drifft ar Bromenâd Y Rhyl, diolch i ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Chronfeydd Adfywio Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Bob dydd Sul, o Orffennaf 26 tan Awst 30 (ac eithrio dydd Sul Awst 2), fe fydd adloniant glan y môr yn dychwelyd i’r Rhyl.  Bydd y rhaglen yn rhedeg o ganol dydd tan 4pm a bydd yn cynnwys ‘The George Formby Entertainers’ yn chwarae’r ffefrynnau o ganeuon Formby, actau amrywiol fel pypedau, hud, chwarae’r acordion, cyd-ganu a llwythi o atgofion.
Fe fydd yna actau arbennig yn perfformio, yn cynnwys A & B Duo, (chwaraewr allweddell a chantores), David Wren (cyn ddiddanwr llong fordaith), Guyathrie Perez (Canwr Rhyngwladol a chyn enillydd cystadleuaeth Canwr Ifanc y Byd yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen), David Fall (Dewin rhyngwladol a diddanwr) ac Alison Nadin (pypedwr a thafleisiwr)
Am wybodaeth bellach a chopi o’r rhaglen, cysylltwch â Chanolfan Groeso’r Rhyl ar 01745 355068 neu Coastal Entertainments ar 01745 330668.

EDITORIAL No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) CHARITY AUCTION No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Parking Problems in Corwen No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) WEB SITE – www.carrogybont.co.uk No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Updating at the Neuadd No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

Top of page / Subscribe to new Entries (RSS)