Llais Carrog a Llidiart y Parc – The Voice of Carrog and Llidiart y Parc
Carrog Y Bont » Archive of 'Apr, 2009'

Ffliw Moch No comments yet

Ar y dudalen hon, gwelwch ddolenni sy’n eich arwain at newyddion a gwybodaeth am y Ffliw Moch gan y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Asiantaeth Gwarchod Iechyd.

Dolen gyswllt i wefan Health Protection Agency

Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Cymru – erthygl yn Saesneg yn unig

Gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru

GOLYGYDDOL No comments yet

Mae rhoddion gwirfoddol yn gyfraniad pwysig at gynnal Eglwysi, Capeli a chyfleusterau cymunedol eraill, megis y papur newydd hwn a’r Neuadd. Yn yr amserau cyfyngedig hyn, mae’n gysur o wybod ein bod yn byw mewn cymuned lle mae pobl yn dal i fod yn barod i fynd i’w pocedi. Fodd bynnag, wrth i gostau rhedeg gynyddu, rhaid codi symiau mwy – efallai’r unig ateb fydd i feddwl am godi arian ar y cyd ar gyfer holl gyfleusterau’r pentref. Mae’r Ocsiwn a gynhelir ar Ddydd Sadwrn 9fed o Fai yn enghraifft dda o sut y gellir codi arian ar y cyd i’w dosbarthu wedyn. Os oes gan unrhyw un syniadau eraill am ffyrdd eraill o godi arian ar y cyd, cysylltwch â’r Bont os gwelwch yn dda.

OCSIWN No comments yet

Mae mynediad am ddim i’r sesiwn arddangos (o 11am ymlaen) ac i’r Ocsiwn ei hun (o 2pm ymlaen).

Chwiliwch o gwmpas eich tŷ neu’ch gardd i weld a oes ’na unrhyw beth y gallwch ei gyfrannu at yr Ocsiwn – efallai byddai’r hyn nad ydych ei eisiau bellach yn berffaith i rywun arall.

 

CYFARFOD CYHOEDDUS – EGLWYS CARROG No comments yet

Cynhaliwyd cyfarfod Ddydd Llun, 30ain o Fawrth

i roi gwybod i’r gymuned am yr argyfwng ariannol

sy’n bygwth yr Eglwys, fel nifer o eglwysi bach yng

Nghymru. Mae cymorth ariannol ar gyfer Eglwysi

wedi lleihau’n raddol dros nifer o flynyddoedd, a bydd

yn darfod yn gyfan gwbl yn ystod y flwyddyn ariannol

hon. O ganlyniad, mae’r Eglwys yng Nghymru yn

gofyn i bob plwyf dalu Cyfran fwy; amcangyfrifir y

bydd hon yn £7000 y flwyddyn ar gyfer Carrog erbyn

2010. Ynghyd â chostau cynyddol gwasanaethau

cyhoeddus, mae’n golygu y bydd angen tua £10,000 y

flwyddyn i gynnal Llansanffraid.

Mae cynnydd cyson mewn rhoddion rheolaidd yn

mynd ochr yn ochr â gostyngiad cyson mewn cyllid o

weithgareddau codi arian. Tynnwyd sylw at y ffaith nad

yw codi arian tymor byr yn ateb i’r argyfwng ariannol,

ac yn wir, mae’n peryglu pellhau’r Eglwys oddi wrth

y gymuned. Rhaid wrth ariannu tymor hir, cynaliadwy

i alluogi’r Eglwys i aros ar agor, ac yn ogystal â

rhoi gwybod i’r gymuned am y problemau i ddod,

gofynnodd y cyfarfod am syniadau am atebion tymor

hir. Un awgrym oedd cynnal Gŵyl Flynyddol.

FFORWM CYMUNEDOL CYNGOR SIR DDINBYCH No comments yet

Cynhaliodd Cynrychiolwyr y Cyngor Sir fforwm ym Mhafiliwn Chwaraeon Corwen gyda’r nos ar 2ail o Ebrill i drafod gwasanaethau cyhoeddus o fewn y gymuned.

Cafodd y sir ei rhannu yn chwe ardal: Dyffryn Dyfrdwy, Dinbych, Rhuthun, Y Rhyl, Prestatyn a Choridor yr A55, gyda datganiad o fwriad newydd. Cwmpasodd hwn 5 aes allweddol: Dinasyddion Sir Ddinbych, asedau, de a de-orllewin Y Rhyl, lefelau sgiliau ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.

Ymhlith y materion a drafodwyd oedd cyflwr gwael ffyrdd lleol, a pheryglon yr A5, yn arbennig troad Bonwm. Esboniodd cynrychiolydd Priffyrdd mai Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am y cefnffyrdd. Mae holl ffyrdd y sir yn cael eu harchwilio o leiaf ddwywaith y flwyddyn; golygodd y tywydd eleni bod nifer wedi dirywio’n sylweddol, gyda’r gost o lenwi tyllau’n fwy o lawer na gosod wyneb newydd. Mae nifer o ffyrdd wedi cael eu clustnodi ar gyfer gwaith cynnal yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mae diffyg toiledau ynglŷn â golwg treuliedig rhai adeiladau ar hyd yr A5 yn cael effaith negyddol ar ymwelwyr yn ardal Corwen. Codwyd pellter y peiriant talu ac arddangos oddi wrth y lleoedd parcio i’r anabl ym maes parcio Green Lane, ynghyd â materion ynglŷn â thrwyddedau parcio blynyddol.

Cafodd y cynllun ailgylchu dwy fag a’r newidiadau i’r ddarpariaeth tipiau eu hesbonio. Soniwyd am y diffyg ymgynghori â’r cyhoedd, a ddaeth i’r amlwg pan gafwyd gwared ar y llyfrgell deithiol. Esboniwyd y byddai cwtogi ar wario’r Cyngor yn ystod y blynyddoedd i ddod; mae 80% o gyllid Sir Ddinbych yn dod o Gynulliad Cymru, gyda dim ond 20% yn cael ei godi trwy’r Dreth Gyngor.

Mae trigolion yn poeni am sut mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhestru rhan sylweddol o dir heb ei ddatblygu ynghanol y dref, sy’n orlifdir, yn arbennig oherwydd y ffordd y mae hyn wedi effeithio ar ddarparu Canolfan Iechyd newydd. Cytunodd cynrychiolwyr y Cyngor i adrodd yn ôl i’r Cynghorwr Huw Jones am y pryderon ynglŷn â’r materion a drafodwyd.

Sylwodd nifer o bobl ar y cyfathrebu gwael rhwng y Cyngor a’r cyhoedd; enghraifft o hyn oedd cyn lleied o bobl a oedd yn gwybod am y cyfarfod cyhoeddus hwn ac eraill. Mae cynrychiolwyr y Cyngor nawr yn ymwybodol o’r broblem hon ac maent yn addo delio â hi yn y dyfodol.

CYMDEITHAS HANES EDEYRNION No comments yet

 

 

 

 

 

 

 

The Society

 

are having two field trips during the summer.

Friday 15th May Trip to Crogen, Llandrillo – meet 2pm at Crogen

Thursday 25th June Trip to Segontium and Caernarfon.

Coach leaves Corwen Car Park at 9am, returning approximately 6.00 to 6.30pm.

Booking is essential. 

 

 

 

Please contact Valmai Webb on 430220

RHAI FFEITHIAU AM Y NEUADD No comments yet

Mae pawb yng Ngharrog yn gyd-berchennog y Neuadd. Mae’n cael ei gweinyddu gan yr Ymddiriedolwyr, sy’n cael eu penodi o blith y gymuned, a’r Pwyllgor Rheoli.

Mae’r Pwyllgor Rheoli (Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd a’u dirprwyon) yn cael eu hethol yn flynyddol gan bob aelod cymwys y gymuned.

Mae aelod cymwys o’r gymuned yn unrhyw un yn y gymuned sy’n mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor yn rheolaidd.

Cyfyngir hawliau pleidleisio i’r rhai sy’n mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor yn rheolaidd.

Rhedir y Neuadd yn ôl Cyfansoddiad sy’n ddogfen gyfreithiol.

Mae copïau o’r Cyfansoddiad a chofnodion pob cyfarfod ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Nos Lun, 27ain Erill 2009 am 7.00 pm.

CODI ARIAN

Cofiwch Loteri’r Neuadd sydd bob amser yn croesawu aelodau newydd (cysylltwch â Dave ‘Manweb’ Jones).

Mae cystadleuaeth ‘Sgwariau’ ar gael yn y Grouse bob wythnos i godi arian at Y Bont.

CLWB IEUENCTID? No comments yet

Roedd Mr Farnon Hadfield-Jones, Uwch Arweinydd

Tîm, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, yn bresennol

yng nghyfarfod diwethaf pwyllgor neuadd y pentref i esbonio

cynlluniau’r dyfodol i ddarparu clybiau ieuenctid.

Golygodd cyfyngiadau ariannol a gofynion cyfreithiol

eraill nad oedd yn bosibl parhau â threfniadau blaenorol

y clwb ieuenctid. Mae’r gwasanaeth ieuenctid nawr

yn cael ei arolygu gan ESTYN o dan y darpariaethau

ar gyfer dysgu gydol oes a sefydlwyd gan Lywodraeth

Cynulliad Cymru, sy’n gofyn am brawf o ansawdd da.

Collwyd arweinwyr cymwysedig, ac roedd yn anodd recriwtio

rhai newydd. Daethpwyd o hyd i Ariannu Craidd

am gyfnod o bum mlynedd o ffynonellau y tu allan i’r

Sir i ddarparu clwb ieuenctid teithiol – bws gyda chyfrifiadur

ac offer uwch-dechnoleg. Caiff hwn ei gyflwyno

yn ystod yr Haf 2009 wrth deithio o gwmpas y pentrefi

mewn tro.

Fe wyddys bod diddordeb mewn darpariaeth i bobl ifainc

a chyda chymorth oddi wrth CGGSDd bydd yn bosibl

hyfforddi gwirfoddolwyr i alluogi pentrefi i agor clybiau

ieuenctid eu hunain, ond ni fydd unrhyw gymorth ariannol

ar gael. Er mwyn sefydlu clwb ieuenctid gwirfoddol,

rhaid i arweinwyr gael y cymwysterau angenrheidiol ac

wedyn dod yn Ddarparwr Cyswllt i’r Ieuenctid. Bydd

yr yswiriant a’r costau eraill yn gofyn am gryn dipyn o

arian. Os bydd gan unrhyw un ddiddordeb mewn hyfforddi

fel gwirfoddolwr, cysylltwch â Mr Hadfield-Jones,

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych. Cytunodd Pwyllgor

Neuadd y Pentref i roi cymorth ariannol i unrhyw un sy’n

fodlon cael yr hyfforddiant i alluogi Clwb Ieuenctid i

ailagor yng Ngharrog.

LLYFRGELL DEITHIOL No comments yet

Roedd y gwasanaeth hwn i fod i ddod i ben ar y 1af o Ebrill, ond mae wedi cael ei estyn; bydd yr ymweliad olaf â Charrog ar y 20fed o Fai.

PROSIECT TREFTADAETH CARROG No comments yet

Rydym yn gofyn am eich cymorth i ehangu archif y pentref

o hen ffotograffau a dogfennau, fel y rhai a oedd i’w

gweld yn ystod y penwythnos arddangos y llynedd.

Cysylltwch â ni pe bai gennych ddiddordeb mewn dweud

straeon o’r gorffennol; gallai hyn gynnwys atgofion o ysgol

Carrog, y chwarel, siopau’r pentref, dulliau ffermio’r

gorffennol, bywyd yn gyffredinol, ynghyd ag atgofion o

ddigwyddiadau’r pentref megis hen Sioe Carrog. Hoffwn

hefyd gopïo unrhyw hen ffotograffau neu ddogfennau

rydych yn dod o hyd iddynt. A oes gennych ffilmiau

teuluol sy’n dangos beth oedd pobl yn ei wisgo yn yr hen

ddyddiau, gweithgareddau neu wibdeithiau? Os cawn

fenthyg o hen ffilm gallwn drosglwyddo delweddau i

DVD a fydd yn rhan o archifau’r pentref.

Byddai unrhyw beth â chysylltiad ag Owain Glyndŵr yn

yr ardal hon o ddiddordeb arbennig.

Chwiliwch trwy eich hen luniau a chysylltwch â:

Sian Dolben 430335, Eric Lea 430259 neu Janice Hardie

430644 am sgwrs ynglŷn â’r prosiect.

Top of page / Subscribe to new Entries (RSS)