Archifau Eisteddfod Gydwladol Llangollen ar gael i’r cyhoedd 1 comment
Mae staff Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych wedi cwblhau catalogio cofnodion Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen, diolch yn rhannol i brosiect a ariannwyd yn hael gan CyMAL, sydd wedi helpu i sicrhau cadwraeth y casgliad hwn sy’n arwyddocaol yn rhyngwladol. Mae’r catalog a’r cofnodion eu hunain yn awr ar gael i’r cyhoedd yn Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych yn Rhuthun.
Mae gan Eisteddfod Llangollen hanes cyfoethog. Fe ddeilliodd o syniad gan Harold Tudor o Goedpoeth, i greu gŵyl i hyrwyddo heddwch ac ewyllys da’n rhyngwladol drwy gerddoriaeth yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Fe gynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yn 1947 ac fe ddaeth y côr Almaenaidd cyntaf yno yn 1949. Fe gadarnhaodd llwyddiant masnachol ysgubol recordiad Côr Plant Obernkirchen o ‘The Happy Wanderer’ yn 1953 (a ryddhawyd heb ganiatâd awdurdodau’r eisteddfod) lwyddiant yr ŵyl yn y blynyddoedd cynnar.
O’i dechreuad gwerinol yn nhref fechan Llangollen, mae’r Eisteddfod Gerddorol Gydwladol wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel digwyddiad diwylliannol; daw cystadleuwyr o bedwar ban byd i gymryd rhan yn y cystadlaethau o ganu a dawnsio, a bydd artistiaid sy’n rhyngwladol adnabyddus yn perfformio yn y cyngherddau min nos, yn cynnwys yn y blynyddoedd diwethaf, Luciano Pavarotti, Placido Domingo, Julian Lloyd Webber ac eleni, Barbara Dixon.
Mae’r casgliad yn cynnwys cannoedd o gofnodion sy’n ymwneud â’r Eisteddfod, o 1946 i’r presennol, ac mae’n cynnwys ffotograffau o ymweliadau brenhinol, telegramau o gefnogaeth gan unigolion enwog fel Anthony Eden a Sybil Thorndike, posteri lliwgar a thaflenni, ffotograffau o gystadleuwyr o bedwar ban byd, recordiadau sain, a llawer mwy.
Mae’r ŵyl â dyled am ei goroesiad i gymorth a chefnogaeth y bobl leol, yn cynnwys Cyfeillion Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen, sydd wedi cynorthwyo yn y prosiect hwn hefyd. Yr hyn sy’n sicr yw bod yna fwy’n dal i fod o gwmpas sydd angen ei gadw ar gyfer y dyfodol, felly os oes gennych unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â’r Eisteddfod, rhowch wybod i ni yn Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych.
Mae’r swyddfa gofnodion yng Ngharchar Rhuthun, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1HP. Ffôn: 01824 708250 neu e-bost archives@denbighshire.gov.uk