Fe ddaeth disgyblion o Ysgol Caer Drewyn, Corwen â chelf a hanes at ei gilydd gyda phrosiect mosaic gyda’r arlunydd lleol, Patricia Jones a’r bwriad oedd hyrwyddo bryngaer yr Oes Haearn, Caer Drewyn – safle uwchlaw tref Corwen.
Er dechrau’r flwyddyn, mae disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 yr ysgol wedi bod yn gweithio’n galed gyda Patricia Jones o Classical Mosaic a’r Prosiect Grug a Bryngaerau i greu mosaic mawr a fydd yn cael ei arddangos y tu allan i Ganolfan Hamdden Corwen.
Meddai Patricia Jones “Y nod oedd ymgorffori delwedd y fryngaer a’i chysylltiadau Celtaidd hanesyddol, yn ogystal â fflora a ffawna’r ardal a chyfeiriadau at adeiladau nodedig yn nhref Corwen.
“Roedd y plant Blynyddoedd 5 a 6 o Ysgol Caer Drewyn wedi mwynhau eu sesiynau gweithdy yn yr ysgol yn gynnar yn 2009.”
Mae’r defnyddiau’n cynnwys gwydr gwydrog, smalti Eidalaidd, cerameg, tsieni a phorslen wedi eu hailgylchu, gleiniau gwydr, cerrig gwenithfaen o fewn ffrâm o dderw lleol a oedd wedi ei chwythu gan y gwynt a’i sychu. Gwaith y saer lleol Adam Ashworth yw’r ffrâm dderw a’r gosodiad.
Meddai Erin Robinson, Swyddog Dehongli Grug a Bryngaerau “Caiff bryngaer Caer Drewyn ei rheoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych ac mae llawer wedi ymweld â ni ac wedi ei mwynhau. Rydym yn gobeithio y bydd y mosaic hardd yma sydd ar gychwyn y llwybr i’r gaer yn annog mwy o bobl i fwynhau’r lle ysblennydd ac arbennig yma am flynyddoedd i ddod.”
Fe drefnwyd ac fe ariannwyd y prosiect gan Gynllun Partneriaeth Tirwedd Grug a Bryngaerau. Drwy gydol y sesiynau gweithdy bu’r plant yn dysgu am waith y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn diogelu archeoleg ac ecoleg yn yr ardal ac am bwysigrwydd y safle fel Heneb Gofrestredig.
Fe ddadorchuddiwyd y mosaic mewn seremoni fer gydag Is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, y brifathrawes, Mrs Jayne Davies, y prif fachgen, Josh McCook, y brif ferch, Libby Williams a Rheolwr y Ganolfan Hamdden, Adrian Roberts.
Yn ei araith, dywedodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies: “Mae gwybodaeth leol o’r safle a dawn artistig y myfyrwyr wedi gweithio law-yn-llaw i greu gwaith celf i ddarlunio’r dirwedd ddramatig yma – y fryngaer Oes Haearn yn arbennig sy’n cadw llygad gwarchodol ar y dref.”
Mae Prosiect tair blynedd y Grug a’r Bryngaerau’n datblygu menter £2.3 miliwn ar gyfer gwaith cadwraeth yr ucheldir ac mae wedi derbyn grant o £1.5 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Am ragor o wybodaeth ewch i heatherandhillforts.co.uk.
—diwedd—
Mae defnyddio arian a godwyd drwy’r Loteri Genedlaethol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cynnal ac yn trawsnewid ystod eang o dreftadaeth i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol gymryd rhan ynddyn nhw, dysgu oddi wrthyn nhw a’u mwynhau. O amgueddfeydd, parciau a lleoedd hanesyddol i archeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cefnogi dros 26,000 o brosiectau gan ddyrannu dros £4biliwn ar draws y DU, yn cynnwys dros 1,700 o brosiectau sy’n dod yn gyfanswm o dros £192 miliwn yng Nghymru. I ddarganfod mwy ewch i www.hlf.org.uk
Mae Cabinet Sir Ddinbych wedi cymeradwyo cynlluniau i ymgynghori’n ffurfiol ar gau potensial Ysgol Llantysilio ym Medi 2010.
Ar hyn o bryd mae’r ysgol â 13 o ddisgyblion llawn amser. Ond, ym Medi 2009 ni fydd yna unrhyw ddisgyblion o fewn Cyfnod Allweddol 1 yr ysgol ac erbyn Medi 2010 rhagwelir y bydd yna ddim ond pedwar o ddisgyblion llawn amser.
Mae’r cyngor wedi cynnal trafodaethau gyda’r corff llywodraethol a’r prifathro gyda’r bwriad o ddatblygu cau rheoledig yr ysgol ym Medi 2010.
Mae corff llywodraethol yr ysgol o’r farn nad yw’r ysgol yn ymarferol bellach ac mae’r prifathro wedi ymgynghori’n anffurfiol gyda rhieni, i’w hysbysu o’r safle ynglŷn â dyfodol yr ysgol.
Yn dilyn penderfyniad y Cabinet heddiw (dydd Mawrth), bydd ymgynghoriad o fis yn cychwyn ar Fedi 7. Yna bydd yn ofynnol i’r cyngor ystyried yr ymatebion a dderbynnir a phennu a ddylid bwrw ymlaen â’r cynnig i gau’r ysgol a chyhoeddi hysbysiadau ffurfiol. Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiadau, mae gan bobl ddau fis i ysgrifennu gyda’u gwrthwynebiadau.
Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, bydd y cyngor yn gwneud y penderfyniad terfynol. Os bydd y cyngor yn derbyn gwrthwynebiadau ysgrifenedig, fe gyfeirir y mater at Lywodraeth Cynulliad Cymru a fydd yn gwneud penderfyniad.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddysgu Gydol Oes: “Yn ddiweddar rydym wedi dechrau adolygu darpariaeth gynradd yn ardal Dwyrain Dyffryn Dyfrdwy (yn ogystal ag ardal Prestatyn), ond teimlwyd y dylid ystyried Ysgol Llandysilio fel achos ar wahân.
“Teimlwn na fyddai ysgol gyda dim ond pedwar o ddisgyblion ar y gofrestr ym Medi 2010 yn darparu’r profiad addysgol gorau i ddisgyblion na’r defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau i’r awdurdod. Rydym eisoes wedi siarad â nifer o grwpiau a fyddai wedi eu heffeithio gan y cau potensial ac mae’n hanfodol bwysig bod unrhyw un sydd â diddordeb mewn addysg yn Ysgol Llantysilio yn cael cyfle i roi eu barn.
Mae Sir Ddinbych wedi ymuno ag asiantaethau partner i amlygu menter Gwarchod Ysgol mewn pryd ar gyfer gwyliau’r haf.
Nod Gwarchod Ysgol yw annog pobl i gadw llygad fanwl ar eu hysgolion lleol yn ystod y toriad hir dros yr haf mewn ymdrech i atal fandaliaeth a byrgleriaeth mewn ysgolion.
Mae ysgolion yn adnodd gwerthfawr i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac mae cyllidebau ysgol, y dylid eu defnyddio i addysgu ein plant, yn cael eu dargyfeirio i gyfarfod â chostau diogelu eiddo gyda griliau ffenestri, larymau, camerâu diogelwch, ffensys a dyfeisiadau diogelu eraill.
Croesawodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Joan Butterfield bawb i’r digwyddiad yn Ysgol Mair, Y Rhyl ar Orffennaf 7. Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ogystal â disgyblion o Ysgol Mair ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones.
Fe fwynhaodd y plant gyfarfod â’r heddlu a’r criwiau tân ac archwilio’r cerbydau argyfwng a oedd yn cynnwys car yr heddlu, injan dân a hofrennydd yr heddlu.

Roedd y Cynghorydd Sharon Frobisher, yr Aelod Arweiniol dros Gymunedau, yn y lansio ac meddai: “Mae ysgolion yn rhan bwysig o unrhyw gymuned ac mae’n eithriadol bwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i’w diogelu.
“Rwy’n annog pawb i gymryd fod cadw llygad ar adeiladau ysgol yn ystod cyfnod y gwyliau’n fater iddyn nhw ac i wneud hynny hefyd y tu allan i oriau yn ystod y tymor. Os ydych yn byw’n agos at ysgol neu fe fyddwch yn mynd heibio i ysgol yn rheolaidd, cymrwch ychydig o amser ychwanegol i wneud yn siŵr nad oes dim o’i le.”
Meddai Ifan Hughes, Cynghorydd Lleihau Trosedd gyda Heddlu Gogledd Cymru, “Mae gwybodaeth gan y gymuned yn hanfodol i lwyddiant y fenter ac mae’r plant wedi mwynhau cymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Os gwelwch chi unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein hysgolion yna fe ddylech ei adrodd i’r heddlu.”
Mewn argyfwng, fe anogir pobl i alw 999 a gofyn am y gwasanaeth angenrheidiol neu ffonio CRIMESTOPPERS ar 0800 555 111 yn gyfrinachol neu ffonio rhif Gwarchod Ysgol 0845 607 1002.
OS GWELWCH CHI O – ADRODDWCH O! PEIDIWCH OEDI!