‘rydym wedi derbyn llawer of gydnabyddiaethau mewn gwerthfawrogiad oherwydd bod Y Bont wedi
dychwelyd, ac yn awr rhaid cael mwy o bobl i gyfrannu erthyglau ac i sicrhau noddiant a hysbysebion er
mwyn cario ymlaen. ‘Rydym yn byw mewn oes electronig gyda mynediad gwybodaeth 24 awr. Y gobaith yw y
bydd www.carrogybont.co.uk yn dod yn rhan angenrheidiol o’r gymuned loes yn ogystal a darparu fersiwn
digidol o’r papur newydd.
Dydd iau 5 Mawrth, 19 Mawrth: – Llansantfraid Clwb, 60s+ 1.30 – 3.30 pm Neuadd.
Dydd llun 9 Mawrth: – 7 pm Neuadd Cyfaifod o’r Pwyligor.
Dydd mercher 25 Mawrth: – 8.30 pm a Grouse.
Dydd llun 30 Mawrth: – 7 pm Eglwys cyfarrfod a Neuadd.
Dydd llun 20 Edrill: – 7 pm Eglwys AGM a Neuadd.
Dydd sadwrn 9 Mai: – Mae’r Ocsiwn Elusennau Fawr yn ei hol yn y Neuadd. Gallwch weld y nwyddau o
11 am gyda’r ocsiwn yn dechrau am 2 pm. I gefnogi sefydliadau lleol, cyfrannwch unrhyw eitemau nad
ydych eu heisiau ond sydd mewn cyfl wr digon da i gael eu gwerthu. Cysylltwch â Paul (430397) neu Eric
(430259) er mwyn trefnu casglu’r nwyddau.
Swyddfa’r Post a Siop dydd Mawrth a dydd Iau, 9 – 12, Neuadd.
Ti a Fi: Dydd Gwener 1 -3 Neuadd yn ystod y tymor.
Tai Chi: Dydd Iau 6.30 – 9.30 pm Neuadd.
Yn dilyn llwyddiant Arddangosfa Celf, Chrefft a Threftadaeth Carrog Fis hydref y llynedd, ac hefyd dathliadau canmlwyddiant Ysgol Carrog, mae archifdy etifeddiaeth yn dechrau datblygu. Y gobaith yw ychwanegu at hyn gyda mwy o luniau, dogfennau a hanes llafar. Am mwy o wybodaeth: heritage@neuadd carrogvillagehall.co.uk.
Cafwyd Gwahoddiad gan ein ffrindiau yn Plouye i drigilion Carrog ymweld ym mis Awst. Cynheur cyfarfod i drafod hyn yn y dyfodol agos, ac am fwy o fanylion gweler www.carrogybont.co.uk.
Mae cyngorwyr yn bwriadu sgrapio llyfrgell symudol y sir o fi s Ebrill. Mae’r gwasanaeth pwysig yma yn ymweld a 104 o gymunedau bob tair wythnds ac yn rhannu dros 23,000 o lyfrau yn fl ynyddol. Mae’n darparu cysylltiad i lawer o bobl sydd heb fynediad arall i gyfl eusterau llyfrgell. Mae’r gost o gynal y gwasanaeth yn fach iawn fel rhan o gyllid y cyngor, ac mae’n ymddangos bod y Cyngor Sir unwaith eto yn esgeuluso ac anghofi o y cymunedau gweldig. Mai’e llyfrgell symudol yn hanfodol, ac yn enwedig yn ystod yr amser economaidd anodd presennol.
NEWYDDION – Mae Jamie Lea wedi dychwelyd i/at Ysgol Carrog fel aelod o staff dros dro fel rhan o’i radd yn y brifysgol.
CANMLWYDDIANT – Dechreuodd dathliadau’r penwythnos gyda cyngerdd ardderchog gan y disgyblion telentog presennol. Daeith dros 150 o gyn-ddisgyblion ac ymwelwyr eraill at ei gilydd i Ysgol Carrog ac i weld hen ffrindiau, gan ddod a lluniau ac eitemau henesyddol eraill o’i gyrfa yn yr ysgol. Rhaid diolch i’r staff, y disgyblion, y rhieni a’r ffrindiau oll am drefnua rhedeg achlysur mor lwyddiannus.
Y GLOCH – Diolch i’r nifer fechan o rieni am drwsio’r gloch. Canodd y gloch am y tro cyntaf ers llawer blwyddyn ar yr 11eg Chwefror, i ddathlu chanmlwyddiant yr ysgol. Gwisgodd y disgyblion i gyd yng ngwisg y cyfnod, a cafod un plentyn wcus y fraint o ganu’r gloch. Ymysg y gwesteion yn y dathliad oedd cadeirydd y Gyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Raymond Bartley, ac fe ddadorchuddiwyd y plac gan Mrs Marion Brown.
….. i gyfrannu. Y dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau yw’r 14 o bob mis cyn cyhoeddi. E-bostiwch eich cyfraniad at editor@carrogybont.co.uk neu cysylltwch â Ian (430625) neu Paul (430397) neu Eric (430259) neu Dick (430644). Mae gan y golygyddion yr hawl i newid neu wrthod cyfraniadau.
Mae’r wefan wedi cael llawer o ymwelwyr o bob rhan o’r byd, gan gynnwys yr unol Daleithiau, Ffederasiwn Rwsia, Awstralia, Wcrain, Sweden a nifer o Wledydd Europeaidd yn ystod ei dyddiau a wythnosau cynnar. Mae gain y wefan gysylltiad gyda nifer o rai eraill, ac mae’n rhoddi manylion o weithgareddau ac achlysuron sydd i’w disgwyl yn y pentref. Mae gwybodaeth yn cael ei ddarparu gan Cyngor Sir Ddinbych, ac mae’r Cyngor Cymuned Lleol yn rhoddi manylion ar faterion sydd yn effeithio ar y pentref.
Yn ddiweddar, datganwyd ar y wefan www.bbc.co.uk/wales/northeast/sites/denbighshire bod y domen wedi cael ei ystyried yn fan hanesyddol pwysig, ac mae CADW wedi cyhoeddi bod arian ar gael i warchod dyfodol y safle.
Rhaid pwysleisio nad yw y safle hanesyddol pwysig arall yn y pentref, sef y Carchady, yn derbyn unrhyw gymorth swyddogol, ac ar hyn o bryd mae’n ddolur llygad bler yng nghanol y pentref. Yn gynar yn y 1900au, ymgyrchodd y Parchedig R Jones i gadw’r adeilad i’r genedl, ond yn anffodus mae pob ymdrech ers, ac wedi hynny, wedi methu.