Llais Carrog a Llidiart y Parc – The Voice of Carrog and Llidiart y Parc
Welcome to -

Rhifyn 5 No comments yet

GOLYGYDDOL

Croeso i’r rhifyn swmpus hwn o’r Bont. Diolch i bawb a gyfrannodd erthyglau, sylwadau a llythyrau.

Hefyd, croeso mawr yn ôl i’r golofn ‘Bwtsias a Berfâu’ - un o’r goreuon!

Darllenwch ymlaen a chael cip ar yr ochr orau o fywyd pentrefol. Er gwaetha’r grŵp bach o unigolion cyfeiliornus sy’n dal i darfu ar gwsg y gymuned, rhai enghreifftiau bach o fandaliaeth a rhwystredigaethau cyffredinol bywyd bob-dydd, rydym yn ffodus o fyw mewn lle mor hyfryd, y mae ein hymwelwyr niferus yn genfigennus ohono. Os oes gennych bum munud sbâr efallai yr hoffech nodi eich meddyliau a’u rhannu gyda’r gweddill ohonom trwy’r Bont.

YSGOL CARROG

Fe wnaeth y plant i gyd gymeryd rhan yn y cyngerdd

diwedd y tymor pan aethant a’r gynulleidfa rownd y byd

mewn can a barddoniaeth. Cyflwynodd Athro David

Jones, cadeirydd y llywodraethwyr eiriaduron i ddysgyblion

blwyddyn 6 sef Elisha Nash, Lowri Jones Williams

ac Alix Hooson. Rhoddodd y tri, lun wedi ei fframio

o holl ddysgyblion ac athrawon yr ysgol. Fe drefnwyd

disco ganddynt yn y Neuadd i blant yr ysgol.Yn ystod

tymor yr Haf aeth y plant i Eisteddfod Llangollen i Ddiwrnod

y Plant ac ar wibdaith i Parc Camelot lle cafwyd

llawer o hwyl.

DIFROD TROSEDDOL

Yn anffodus mae’r Eglwys a Neuadd y Pentref ill dau

wedi cael eu difrodi yn ystod yr wythnosau diweddar. Yn

yr Eglwys, cafodd diffoddydd tân ei ddwyn o’r tu mewn

a’i arllwys yn y cyntedd. Y gost o’i ailosod oedd £120;

o’r braidd y gall Eglwys Carrog fforddio swm o’r fath.

Fel cyd-ddigwyddiad, dyma’n union faint a godwyd ar

y Daith Gerdded Helfa Drysor. Ymddangosodd crafiad

ym mhaent newydd y ddau ddrws yn Neuadd y Pentref,

a hefyd ar yr Hysbysfwrdd, ac yn ddiweddar, cafodd un

o’r peipiau glaw ei thorri. Os byddwch yn dyst i unrhyw

ddigwyddiad o’r fath, cofiwch y gallwch eu hysbysu heb

ddatgelu pwy ydych chi, ar rif ffôn Crimestoppers: 0800

555 111 neu trwy lenwi’r ffurflen arlein ar <http://www.

crimestoppers-uk.org/>

GWEFAN

Cofiwch ein gwefan, www.carrogybont.co.uk. Bydd y rhai

ohonoch sydd wedi dilyn y wefan hon yn gwybod y mae’r

wefan yn cael ei diweddaru’n rheolaidd, gyda gwybodaeth

a dderbynnir o’r pentref ei hun a’r tu allan. Efallai y bydd

yr wybodaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Ddinbych,

sy’n rhestru’r holl wybodaeth berthnasol y mae swyddfa’r

wasg yn ei ryddhau. Yn ystod adeg y gwyliau, rhestrir yr

holl weithgareddau, o Bicnics Tedi Bêrs i Sioeau Awyr.

Ewch i gael cip!

Yn aml mae oedi rhwng y pryd y mae’r fersiwn Saesneg

a’r fersiwn Cymraeg yn ymddangos ar ein gwefan.

Mae oherwydd bod yr wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn

Saesneg yn gyntaf, gyda’r cyfieithiad Cymraeg yn dilyn

hyd at 24 awr yn ddiweddarach. Mae’r golygyddion yn

ychwanegu’r Gymraeg mor gyflym ag y mae amser yn

caniatáu; ymddiheurwn os mae hyn yn cymryd mwy o

amser nag sy’n ddelfrydol weithiau.

Gallwch roi sylwadau ar unrhyw erthygl sy’n ymddangos

ar y wefan, un union fel y fersiynau papur.

CYSTADLAETHAU CYMUNEDOL SIR DDINBYCH

Cafodd y teitl o Neuadd Bentref/Canolfan Gymunedol

y Flwyddyn Sir Ddinbych 2009 ei ddyfarnu i Ganolfan

Llandrillo ynghyd â gwobr o £100.00. Yn gydradd

ail gyda gwobr o £75.00 yr un roedd Neuadd Carrog a

Chanolfan Cae Cymro, Clawddnewydd. Yn drydydd

roedd Theatr Twm o’r Nant, Dinbych, a fydd yn derbyn

gwobr o £50.00. Noddwyd y Gystadleuaeth hon gan Ffynhonnell

y Degwm Sir Ddinbych.

Mae manylion Menter Wirfoddol Ieuenctid y Flwyddyn

2009 a Stad Henoed y Flwyddyn i’w gweld ar ein gwefan.

GWOBR CYSYLLTIADAU CYMUNEDOL BT

Gwnaeth Neuadd y pentref, Carrog, gais llwyddiannus i

Gynllun Gwobrau Cysylltiadau Cymunedol BT; bydd yn

derbyn gliniadur a blwyddyn am ddim o gysylltiad band

eang diwifr yn ystod mis Medi.

Mae BT yn rhedeg y cynllun i roi cyfle i fudiadau cymunedol

ac elusennol i gael mynediad i’r byd arlein

ar gyfer marchnata, recriwtio, codi arian, cyfathrebu a

rhwydweithio. Roeddwn o blith miloedd a ymgeisiodd yn

y cynllun gwobrau ledled y Deyrnas Unedig a Gogledd

Iwerddon, a gwnaethon ni argraff ar y beirniaid ynglŷn â

sut y byddai mynediad i’r rhyngrwyd yn lles i’r gymuned

leol.

Dywedodd Beth Courtier, Rheolwr y Rhaglen Buddsoddi

Cymunedol: “Mae’n cynllun gwobrau hwn yn golygu i

filoedd o gymunedau allu manteisio o’r buddion niferus

ac amrywiol sydd gan y rhyngrwyd i’w cynnig. Trwy

ddarparu’r gwobrau hyn i ddatblygu’r gallu, mae BT yn

hybu cynaladwyedd ac yn galluogi grwpiau i symud ymlaen

a thyfu.

CARCHARDY

Rydym yn drist o adrodd bod safle’r Carchardy ynghanol y

pentref erbyn hyn wedi’i lefelu, ac mae olion olaf y waliau

hynafol ar lannau’r afon Dyfrdwy wedi diflannu o dan

haenen o rwbel.

Cafodd Carchardy Owain Glyndŵr, wrth ben Teras

Glyndŵr, sylw haneswyr am ganrifoedd, ac yn ôl ym 1906

dechreuodd y Parch. Rees Jones, Carrog ymgyrch cenedlaethol

i ddiogelu’r adeilad. Can mlynedd wedi hynny, does

dim ar ôl uwchlaw’r tir rŵan o’r hen adeilad, a gafodd ei

restru gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1908 fel

lle o ddiddordeb hanesyddol sylweddol.

Does neb yn gwybod beth fydd dyfodol y safle, gan ar

hyn o bryd nid oes cynlluniau wedi’u cyflwyno i’r cyngor

sir. Chafodd ddim cynlluniau eu cyflwyno, chwaith, cyn

clirio’r safle.

Rhoddodd Fiona Gale, Archeolegydd y Sir, yr ateb canlynol

i’r Carchardy a Charrog Anweledig:

“Hyd y gwn i, nid oes unrhyw olion o’r adeilad sy’n gysylltiedig

â Glyndŵr ar y safle hwn ers peth amser. Rwy’n

ymwybodol o’r safle ac o’r ymchwil helaeth gan Ian Lebbon.

Bydd sylfeini’r adeilad o dan y tir, ond efallai na fydd

fyth yn bosibl cysylltu’r adeilad heb amheuaeth ag Owain

Glyndŵr.

Ynglŷn â mater arall, bydd safle Mwnt Owain Glyndŵr

yn cael arian sylweddol cyn bo hir o Lywodraeth Cynulliad

Cymru i’w atgyweirio. Mae Cadw yn dechrau cynllunio

rhaglen at y diben hwn. Cafodd yr ariannu hwn ei

gyhoeddi’r llynedd. Rwy’n meddwl bod cyndynrwydd i

annog ymwelwyr i’r safle cyn i rywfaint o waith atgyweirio

gael ei wneud.

Wedi’i ethol fel aelod dros Ward Gymunedol Corwen, galwodd

y Cynghorwr Hugh Jones gyfarfod gyda haneswyr

lleol, aelodau Cadw, ac Archeolegydd y Sir yng Nghapel

Rhug yn yr haf 2008, gyda’r bwriad o sefydlu ‘Llwybr

Owain Glyndŵr’ o Gorwen, Mynydd-y-Gaer, Carchardy,

Mwnt Owain Glyndŵ, dros y Berwyn i Ben y Pigyn ac

i lawr i Eglwys Corwen. Comisiynwyd adroddiad, a’

cyflwynwyd i Glerc y Cyngor Cymuned. Mae nawr wedi

dweud ei fod yn synnu ac yn drist nad ydynt wedi cymryd

sylw o hyn’a bydd yn ceisio ar ô egwyl yr haf i drefnu

cyfarfod gyda Fiona Gale, Archeolegydd y Sir, i drafod

dyfodol y safle.

O ystyried hyn, mae cryn dipyn o eironi yn y canlynol:

Cyfnod newydd yn hanes bwthyn y bugail

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu gyda phrosiect cadwraeth

sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Nghoedwig

Nercwys ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir Fflint.

Mae partneriaeth y Comisiwn Coedwigaeth a’r Ardal

o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cydweithio i ddod â

bywyd newydd i’r ardal ac mae gwaith wedi cychwyn ar

y clostir o flaen hen fwthyn y bugail.

Mae’r hen foncyffion a oedd ar ôl yn y clostir ers clirio’r

coed bum mlynedd yn ôl, yn awr wedi eu symud ac mae

crefftwyr lleol wedi dechrau ailadeiladu’r wal gerrig sychion

a oedd yn ei amgylchynu.

Y syniad yw troi’r clostir yn weirglodd a fydd yn gyfoethog

o flodau – cynefin pwysig i lawer o rywogaethau

o blanhigion a phryfed. Unwaith y bydd y wal gerrig

sychion wedi ei hail-godi bydd y gwaith yn cychwyn i

baratoi’r tir ar gyfer hau cymysgedd o hadau blodau gwyllt

yn y gwanwyn.

Fe ddymchwelwyd yr hen fwthyn ym mhen uchaf y

clostir yn gynnar yn y 1960au pan blannwyd y goedwig a

barnwyd ei fod yn anniogel. Ers hynny mae wedi aros yn

bentwr o rwbel ond y gobaith yn awr yw ail-greu cynllun

llawr gwreiddiol yr adeilad.

Dan oruchwyliaeth Fiona Gale, Archeolegydd Cyngor Sir

Ddinbych, fe wahoddir gwirfoddolwyr i helpu i glirio peth

o’r rwbel. Fe’i diogelir rhag unrhyw ddinistr pellach ac fe

wneir arolwg archeolegol.

DARPARIAETH CLWB IEUENCTID YNG NGHARROG

Ar ôl inni ofyn am y diweddaraf ar ddyfodol y ddarpariaeth

ar gyfer pobl ifainc yn y pentref, rydym wedi derbyn y datganiad

canlynol gan y Cynghorwr Hugh H Evans, Arweinydd

Cyngor Sir Ddinbych:

“Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ail-drefnu

ei adnoddau fel rhan o’i Strategaeth Cyflawni’r Addewid.

Mae’r broses hon yn cynnwys nifer o nodweddion allweddol:

Mae’r rhain yn cynnwys:

·Adolygiad annibynnol cyn gwneud argymelliadau ar gyfer

datblygu a darparu yn y dyfodol

·Rhoi ar waith cynllun gweithredu i ymateb i anlyniadau’r

broses adolygu

·Cynnwys yn y rhaglen yr Uned Symudol Ieuenctid, sy’n

darparu gwaith ieuenctid mewn cymunedau gweledig a chymunedau

llai

·Hyfforddi gwirfoddolwyr yn y gymuned i redeg gweithgareddau

cefnogi ieuenctid mewn cymunedau gweledig a

chymunedau llai

·Y gwasanaethau Ieuenctid a Hamdden i fod i gydweithio i

wella’r rhwydwaith cefnogaeth a gweithgareddau ieuenctid

Ar hyn o bryd mae Carrog yn un o’r cymunedau a fydd yn

elwa o’r ddarpariaeth symudol newydd. Mae’r gwasanaeth

yn cynllunio cwrs hyfforddi i wirfoddolwyr i’r gynnal ym

Mis Ionawr 2010; bydd yn recriwtio ar gyfer y cwrs hwn o

Fis Medi 2009 ymlaen.

Mae Uwch Arweinydd Tîm y Gwasanaeth Ieuenctid a’r

Cynghorwr Huw Jones wedi cwrdd â Phwyllgor Neuadd y

Pentref, Carrog i roi gwybod iddynt i’r hyfforddiant newydd

ar gyfer gwirfoddolwyr a’r uned symudol. Mae pobl ifanc

yn edrych ymlaen gyda chyffro ar yr uned symudol ac mae’r

pwyllgor wedi cytuno i hepgor y ffî hurio er mwyn i’r gwasanaeth

a DVSC allu hyfforddi gwirfoddolwyr o’r gymuned.

Rhagwelir y bydd gwirfoddolwyr o gymuned Carrog yn gallu

gweithio gyda’r Gwasanaeth ieuenctid a DVSC i ddarparu

ystod eang o gefnogaeth i waith ieuenctid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â’r

datblygiadau yng Ngharrog, cysylltwch â’r Prif Swyddog

Ieuenctid, Roger Ellerton, ar 01745 345234.”

CARROG ANWELEDIG?

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych lyfryn o’r

enw “Darlun o Sir Ddinbych” gyda’r bwriad o groesawu

ymwelwyr i’r amrywiaeth o lefydd diddorol a phethau i’w

gwneud yn y sir. Yn anffodus mae’n ymddangos nad ydi Carrog

na Llidiart y Parc (na Glyndyfrdwy!) yn haeddu cael eu

cynnwys yn y rhestr o bentrefi a ddisgrifir. Mae hyn er gwaethaf

ein pont a’n heglwys hanesyddol a’n lleoliad ynghanol

tiroedd Glyndŵr – mae’r Mwnt a safle’r Carchardy o fewn

terfynau’n pentref. Mae’r unig gyfeiriad at y Mwnt o dan y

disgrifiad o Gorwen, sy’n lleoli’r safle pwysig hwn saith milltir

i’r dwyrain, rhywle yn ardal y Berwyn!

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o’r economi lleol – os ydym

i elwa ohoni, dylem o leiaf fod yn weladwy mewn arweinlyfr

swyddogol a gyhoeddir gydag arian cyhoeddus. Rhai blynyddoedd

yn ôl, rhedodd Cyngor Dosbarth Glyndŵr ymgyrch

llwyddiannus iawn ar sail “Gwlad Glyndŵr” – mae’ ymddangos

nad ydi’ cyngor presennol wedi dysgu dim o’

ymgyrch hwnnw.

Fodd bynnag, mae twristiaid yn dod o hyd inni, nifer ohonynt

ar y trê, ond er bod gorsaf derfynol orllewinol Rheilffordd

Llangollen yma, nid ydym yn haeddu sylw!

Efallai y dylai awduron yr arweinlyfr hwn fod wedi cysylltu

ag aelodau’ gymuned ynglŷ â’ cynnwys. O leiaf y byddwn

wedi cael ein gwaredu rhag y “hwedl”y “orrwyd pen

Robert Hutton oddi ar ei ysgwyddau gan goeden yn disgyn

wrth iddo farchogaeth heibio Plas Rhaggatt, ger Corwen

yn y 1850au.”Mae adroddiadau’ wasg yn datgan yn glir y

bu farw ym mis Ionawr 1910, yn fwyaf tebyg o ganlyniad

trawiad ar y galon; cafodd ei gladdu yng Ngharrog.

Fel ateb i’ gofynion am sylwadau, fe dderbyniwyd yr

ymateb canlynol gan Peter McDermott, Swyddog Prosiect

CANTATA2, Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’n anodd iawn cynnwys popeth mewn arweinlyfr cyffredinol.

Rydym yn trafod ailargraffiad o’r arweinlyfr ar hyn

o bryd, ac er nad ydym mewn sefyllfa i wneud newidiadau ar

raddfa eang, efallai y gallwn gynnwys paragraff byr am Garrog

yn yr adran Pentrefi. Diolch hefyd ichi am dynnu ein sylw

at y camgymeriad ynglŷn â Robert Hutton. Os byddwn yn ei

ailargraffu byddaf yn sicrhau y caiff hwn ei dynnu.”

Hefyd, nododd Fiona Dolben o’r Uned Twristiaeth:

“bod y llyfrynnau ‘Crwydro Corwen’ a ‘Gwlad Owain

Glyndŵr a Llwybrau Coedwig Pen y Pigyn’ yn crybwyll Carrog

a Llidiart y Parc.”

GEFEILLIO

Dylai ymweliad gefeillio i’n ffrindiau yn Plouyé, Llydaw,

wedi digwydd ym mis Awst 2009, ond i resymau gwahanol

nid oedd yn bosibl. Mae ein gwesteiwyr yn naturiol yn siomedig

ac maent yn gobeithio y bydd grŵp o’r pentref yn gallu

ymweld â nhw’r flwyddyn nesaf. Cynhelir cyfarfod i drafod

gefeillio yn hwyr ym mis Medi – croeso cynnes i bawb, dyddiad

i’w gadarnhau.

GWASANAETHAU BRYS YN ATEB GALW YNG NGHARROG

Ar 26 Gorffennaf, yn dilyn hysbysiad o rywun yn galw am

gymorth yn y caeau y tu ôl i Faes y Llan, atebodd yr heddlu,

y tîm achub ar fynydd a dau hofrennydd y galw. Fe chwiliwyd

am nifer o oriau, ond rhoddwyd y gorau iddo pan na

ddaethpwyd o hyd i unrhyw un mewn trafferth. Amcangyfrifir

y bydd y gweithrediad yn costio tua £20,000.

Gofynnodd Y Bont i’r heddlu am unrhyw sylwadau, ond

gwrthododd am eu bod ynghanol gwneud ymholiadau, mae’n

debyg.

Er Cof

Mr. Idwal Pritchard

Trist iawn oedd clywed y newyddion am farwolaeth

Mr Pritchard, cyn brifathro Ysgol Carrog. Roedd wedi

symud o Maes y Llan gyda ei wraig i gartref Abbey

Dingle Llangollen.

Bu yn brifathro yng Ngharrog am 1966 tan ei ymddeoliad

yn 1982 ac yn ystod y cyfnod yma gwelodd llawer o

newidiadau mewn addysg a rhifau y plant yn yr ysgol.

Mae llawer o drigolion yng Ngharrog heddiw yn ei

gofio fel athro dosbarth.

Roedd yn aelod ffyddlon o bwyllgor y Neuadd a bu yn

drysorydd ac ysgrifennydd. Roedd yn mwynhau gem o

snwcer ac yn aelod yng nghapel Seion Carrog.

Estynwn ein cydymdeimlad i’w weddw, ei fab,ei ferch

yng nghyfraith a’i wyresau.


Treialu system talu am barcio newydd No comments yet

Ydych chi erioed wedi ymweld â maes parcio talu ac arddangos yn Sir Ddinbych, rydych ar frys, mae hi’n glawio a ‘dydych chi ddim wedi parcio’n agos at y peiriant Talu ac Arddangos neu rydych yn sylweddoli nad oes gennych newid?  Fe allai hynny fod yn rhan o’r gorffennol yn awr gyda chyflwyno gwasanaeth awtomataidd newydd y gallwch ei gyrchu’n uniongyrchol o’r ffôn symudol.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymuno â BemroseBooth Mobile i sicrhau y gall pobl barcio, talu a mynd mor gyfleus a chyn gyflymed ag sydd bosib.

Mae’r fenter i’w harbrofi am chwe mis mewn chwech o feysydd parcio: dau yn Y Rhyl ac un ym Mhrestatyn, Dinbych, Rhuthun a Llangollen.

Gall cwsmeriaid ddal i ddefnyddio’r dulliau presennol o dalu gydag arian parod neu dalu am eu parcio ar eu ffôn symudol gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.

I ddefnyddio Bemrose Booth Mobile, mae angen i bobl ffonio 01824 730 390, gan ddyfynnu’r cyfeirnod parcio sydd i’w gael ar y peiriannau talu ac arddangos ac arwyddion o gwmpas y maes parcio a chadarnhau hyd eu harhosiad.  Gall pobl ymestyn eu hamser parcio hefyd ar y ffôn symudol heb orfod dychwelyd i’w cerbyd.

Bydd staff gorfodi parcio’r cyngor yn derbyn manylion y parcio mewn amser go iawn i derfynfa llaw, yn eu galluogi i wirio cerbydau o fewn eu parth parcio mewn chwinciad.

Ni fydd angen i gwsmeriaid sydd wedi talu ar y ffôn arddangos unrhyw docyn.

Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae’r cyngor yn mynd yn dechnolegol iawn yn ei ymdrechion parhaus i wella gwasanaethau parcio i breswylwyr ac ymwelwyr â Sir Ddinbych.

“Wrth gwrs gall pobl barhau i ddefnyddio’r dulliau traddodiadol o wthio arian i mewn i’r peiriannau talu ac arddangos, ond mae’r system hon yn golygu y gallwch osgoi cael eich dal os ewch chi dros eich amser a gorfod rhuthro’n ôl i roi mwy o bres yn y peiriant.”

Mae Nick Kibel o BemroseBooth yn eiddgar iawn i weld lansio’r gwasanaeth newydd. “Sir Ddinbych yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.  Gan mai dyma ddyfodol parcio, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor sy’n flaengar yn ei syniadau fel Sir Ddinbych.  Rydym yn siŵr y bydd y bobl leol a’r ymwelwyr yn mwynhau’r ffordd gyfleus, gyflym a diogel o dalu am barcio.”

(English) Got a problem? Just ask Jo No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) African delegation heading for Dee Valley school No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Help at hand for youngsters with disabilities No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Murder mystery at Nantclwyd y Dre No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Your views needed on planning blueprint No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Your thoughts on your local library – your chance to let them know! No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

(English) Preparation for General Election already underway in Denbighshire No comments yet

(English) Fun-packed activities in Denbighshire’s countryside No comments yet

Sori! Dyw\\\’r stori yma ddim ar gael yn Gymraeg eto.

Top of page / Subscribe to new Entries (RSS)